Lleoliad:
Ystafell Gynadledda B - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Mawrth 2019
Amser: 09.16 - 15.55
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Joanna Adams, Uwch-bartner Busnes Aelodau'r Cynulliad Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Rebecca Hardwicke, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau Martin Jennings, Y Gwasanaeth Ymchwil Gethin Jones Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Ymgysylltu |
Ysgrifenyddiaeth: |
Lleu Williams (Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) |
Tystion: |
1.1. Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2. Cafodd y Cadeirydd ymddiheuriad gan Trevor Reaney. Gwnaeth Trevor sylwadau ar bob eitem cyn y cyfarfod.
1.3. Croesawodd y Cadeirydd Joanna Adams i'r cyfarfod, a fydd yn helpu'r Bwrdd yn ei rôl fel Uwch-bartner Busnes Aelodau'r Cynulliad.
1.4. Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd mai hwn fydd cyfarfod olaf Siân Giddins fel Dirprwy Glerc y Bwrdd. Ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i Siân am ei gwaith dros y ddwy flynedd diwethaf a dymunodd yn dda iddi yn ei rôl newydd.
1.5. Yn amodol ar ddiwygiad mân, derbyniodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod ar 17 Ionawr 2019.
1.6. Trafododd y Bwrdd oblygiadau posibl y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar ei gylch gwaith a chytunodd i fonitro hynt y Bil drwy'r Cynulliad.
1.7. Trafododd y Bwrdd y diwygiadau i'r polisïau a gweithdrefnau perthnasol yn sgil ei benderfyniadau blaenorol i gyflwyno diwrnodau braint a pholisi absenoldeb tosturiol ffurfiol, yn ogystal â diwygio'r Gweithdrefnau Disgyblu a Chwynion. Cytunodd y Bwrdd i rannu'r polisïau a'r gweithdrefnau â'r Grwpiau Cynrychiolwyr cyn eu cyflwyno'n ffurfiol.
1.8. Nododd y Bwrdd y sylw diweddar yn y cyfryngau i'r lwfans dirwyn i ben a chytunodd i gynnal y darpariaethau presennol.
1.9. Dywedodd yr ysgrifenyddiaeth wrth y Bwrdd, yn dilyn ei benderfyniad i ysgrifennu at yr holl staff cymorth sy'n gweithio i Aelodau annibynnol y Cynulliad i ofyn iddynt ffurfioli trefniadau ar gyfer ymgysylltu â'r Bwrdd, nad oedd consensws wedi'i gyflawni ynghylch pwy ddylai gynrychioli'r garfan hon o staff. Fel y cyfryw, cytunodd y Bwrdd i rannu gwybodaeth berthnasol â'r holl staff o'r fath yn electronig.
Camau gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn gwneud y canlynol:
- cyhoeddi nodyn y cyfarfod ar 17 Ionawr;
- dosbarthu'r polisïau a'r gweithdrefnau diwygiedig i'r Grwpiau Cynrychiolwyr;
- ysgrifennu at yr holl staff cymorth sy'n gweithio i'r Aelodau annibynnol i'w hysbysu o'i phenderfyniad.
1.1. Trafododd y Bwrdd y darpariaethau ym mhenodau'r Penderfyniad sy'n ymwneud â Gwariant ar Lety Preswyl, Siwrneiau'r Aelodau a Chostau Swyddfa sy'n dod dan ran un o'r adolygiad.
1.2. Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar ei gynigion i ddiwygio'r penodau hyn yn y Penderfyniad.
1.3. 7 Mehefin 2019 fyddai'r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad.
Camau gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn gwneud y canlynol:
- cyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;
- llunio crynodeb o'r ymatebion i'r Bwrdd eu trafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.
1.1. Cynhaliodd y Bwrdd ei drafodaeth gyntaf o'r materion sy'n dod dan ran dau o'r adolygiad ynghylch y cymorth a roddir ar gyfer yr Aelodau ac i Bleidiau Gwleidyddol, sef penodau 7 ac 8 o'r Penderfyniad yn y drefn honno.
1.2. Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion hyn yn ei gyfarfod nesaf.
4.1. As item 3.
1.1. Croesawodd y Bwrdd Paul Clayton a Joe Glover, a oedd yn cynrychioli Capital People, i'r cyfarfod.
1.2. Gwahoddodd y Cadeirydd Paul a Joe i roi trosolwg o'r adroddiad i'r Bwrdd ac i ymateb i'r pwyntiau eglurhad a godwyd.
1.3. Cytunodd y Bwrdd i drafod y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i gysylltu â Capital People ar ran y Bwrdd i gytuno ar y camau nesaf.
6.1. As item 5.
1.1. Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gafwyd i'w gynigion fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad.
Lwfans Costau Swyddfa
1.2. Nododd y Bwrdd y pryderon a godwyd ynghylch ei gynigion i gynnal y lwfans Costau Swyddfa ar gyfer ei Benderfyniad nesaf. Fodd bynnag, gan nad oedd dim tystiolaeth i awgrymu y dylid cynyddu'r lwfans, cytunodd y Bwrdd i weithredu ei gynigion sy'n cynnal y lwfansau ar y gyfradd bresennol.
Gwariant ar Lety Preswyl
1.3. Nododd y Bwrdd y gefnogaeth i'w gynigion i ddiwygio'r darpariaethau ynghylch y lwfans ardal ryngol, ar gyfer cynyddu'r gwerth ac egluro ei ddefnydd, a chytunodd i weithredu'r newidiadau yn ei Benderfyniad nesaf.
1.4. Cytunodd y Bwrdd hefyd i gynyddu'r lwfans ardal allanol 2.4 y cant, sef y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer mis Medi 2018.
1.5. Cytunodd y Bwrdd i gynnal yr holl lwfansau eraill sy'n gysylltiedig â Gwariant ar Lety Preswyl.
Camau gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn gwneud y canlynol:
- ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau'r Cynulliad a'r staff cymorth yn cadarnhau'r newidiadau i'r Penderfyniad ar gyfer 2019-20, gan gynnwys manylion eu cyflogau a fydd yn cynyddu 1.2 y cant yn unol â'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE), Enillion Canolrif gros ar gyfer swyddi cyflogeion amser llawn yng Nghymru;
- cyhoeddi'r Penderfyniad diwygiedig.